Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 3 Mawrth 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 11.01 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar AC (Cadeirydd) Jocelyn Davies AC William Graham AC Mike Hedges AC Sandy Mewies AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru Matthew Mortlock, Swyddfa Archwilio Cymru Simon Higgins, Road Haulage Association Ltd Malcolm Bingham, Freight Transport Association |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Leanne Hatcher (Ail Clerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Andrew Minnis (Ymchwilydd) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gadarnhau nifer y staff sydd wedi eu recriwtio, i ystyried achosion ôl-weithredol ac i reoli llwyth achosion parhaus.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Papur Briffio'r Gwasanaeth Ymchwil
4.1 Darparodd Swyddfa Archwilio Cymru a Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yr Aelodau gyda diweddariad ar yr ymgynghoriad a'r dull ymholi amlinellol.
5 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Sesiwn dystiolaeth 1
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Road Haulage Association Ltd a Freight Transport Association ar ei ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd.
6 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Trafod y dystiolaeth:
6.2 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.3 Cytunodd y Pwyllgor:
· i ofyn am ffigyrau ar lefelau staffio a gwybodaeth yn ymwneud â rheoli traffig a threfniadau gwydnwch gan Asiantau Cefnffyrdd;
· gofyn am wybodaeth bellach gan Lywodraeth Cymru ar gynlluniau cefnffyrdd mawr sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, ei ddull o flaenoriaethu cynlluniau yn y dyfodol, a mwy o fanylion am wariant Asiantau Cefnffyrdd, rhaglenni gwaith a chyllidebau yn y dyfodol;
· ysgrifennu at Gymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO) i ofyn am wybodaeth am reoli digwyddiadau a defnyddio sgriniau; ac
· ysgrifennu at Highways England i ofyn am wybodaeth am ei ddull o gynnal a gwella'r Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yn Lloegr, gan gynnwys manteision disgwyliedig y strwythur a'r dull gweithredu newydd, a sut y bydd hyn yn rhoi mwy o sicrwydd cyllid.
6.4 Cytunodd y Gwasanaeth Ymchwil i ddarparu eglurhad ar goridorau'r Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd (TEN-T) yng Nghymru a'r DU a gwybodaeth am Highways England.
7 Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru
7.1 Ystyriodd y Pwyllgor lythyr oddi wrth yr Athro June Andrews a Mark Butler, a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu i fynegi awydd y Pwyllgor iddi ddod i gyfarfod yn y dyfodol.